P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tom MacLean, ar ôl casglu cyfanswm o 55 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Mae Cyngor Conwy yn ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yn y flwyddyn i ddod. Mae cynghorau eraill yng Nghymru hefyd yn cyflwyno codiadau treth gyngor y tu hwnt i gyfradd chwyddiant.

 

Galwaf ar i'r Cynulliad gapio codiadau yn y dreth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd. Wrth i gyfraddau dlodi plant a dyledion cartrefi gynyddu, bydd y codiadau aruthrol yn y dreth gyngor yn cael effaith andwyol ar gartrefi.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Mae Cyngor Conwy wedi codi'r dreth gyngor 5 y cant o'r naill flwyddyn i'r llall, ond eleni mae'n ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant.

 

Mae gormod o gartrefi incwm isel eisoes mewn trafferthion; byddai codiad gwarthus o'r fath yn ergyd drom.

 

Rydym yn talu MWY ac yn cael LLAI a LLAI o ran gwasanaethau.

 

Yr un yw'r stori ledled Cymru.

 

Byddai capio codiadau treth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd yng Nghymru yn fodd i deuluoedd dan bwysau gael eu gwynt atynt.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Clwyd

·         Gogledd Cymru